Mi feddyliais yn y bore

Mi feddyliais yn y bore,
  Buaswn amser maith cyn hyn,
Wedi maeddu fy mhechodau,
  Ac yn canu ar Sion fryn;
    Swn y rhyfel, &c.
  Ydyw'r man 'rwi etto yn byw.

Llawn o euogrwydd, llawn o ddychryn,
  Llawn o boen, yw'm henaid gwan;
Anghrediniaeth cryf yn haeru,
  Byth na ddof oddi yma i'r llann:
    Balm o Gilead, &c.
  'N unig all wellhau fy nghlwy'.

Mae dyfnderoedd anghrediniaeth,
  Wedi'm rhoddi'n llesg a gwan;
Pechod yn fy ngwneud i ofni,
  Ofni yn fy rhwystro i'r lann:
    gwna im' gredu, &c,
  Dyna'm henaid wrth ei fodd.

Yr wy'n ofni yn fy nghalon,
  Gan mor fychan yw fy ngrym,
Rhag ryw awr i'm temtasiynau,
  Creulon i fy ngwnena yn ddim;
    Nid oes gryfder, &c.
  Trwy fy ysbryd mewn un man.

Sefwch bellach fy ngelynion,
  Sy'n fy nghuro bron erioed;
Fy dal a wnaethoch yn ymddifad,
  Cawsoch f'yspryd tan eich troed:
    'Chydig oriau, &c.
  Dof o'ch rhwydau
        oll yn lân.

Disgwyl 'r wyf ar hyd yr hir-nos
  Hiraethu am y bore ddydd;
Disgwyl clywed pyrth yn agor,
  A chadwynau'n myn'd yn rhydd;
    O! na wawriai, &c.
  Bore hyfryd Jubili.

            - - - - -

Mi feddyliais yn y bore,
  Buaswn amser maith cyn hyn,
Wedi maeddu fy mhechodau,
  Ac yn canu ar Sïon fryn;
    Swn y rhyfel,
  Ydyw'r mân 'rwy etto'n byw.

Llawn euogrwydd, llawn o ddychryn,
  Llawn o boen, yw'm henaid gwan;
Annghrediniaeth cryf yn haeru,
  Byth na ddof oddiyma i'r làn;
    Balm yn Gilead,
  Unig ag all wella nghlwyf.

Maith yw'r nos a
      mawr yw'r tywyllwch
  P'odd y galla'i threulio maes
Arglwydd heb gael dy gwmpeini,
  Nerth dy anorchfygol ras;
    Gormod gofid,
  Hebot allu yma i fyw.

Yr wy'n ofni temtasiynau,
  Nid wyf fi ond llesg erioed,
Mae'r un wana'n ddigon abl,
  Fyn'd a'm henaid tan ei throed;
    Gwaed yn llifo,
  Ar Galfaria a'm deil i'r làn.

Er bod arnaf ofnau filoedd,
  Pan y delo'r drwg y'mlaen,
F'allai caf fi nerth i sefyll,
  Fel y graig y'nghanol tân;
    Gwaed yn llifo,
  Ar Galfaria a'm deil i'r làn.

Paid fy enaid gwan ag ofni,
  Nid rhyw ddrygau
        sy'n neshau,
Newydd da sy o dir y bywyd,
  Lle mae cariad yn parhau;
    Gwaed yn llifo,
  Ar Galfaria a'm deil i'r làn.

             - - - - -

Mi feddyliais yn y bore,
  B'aswn amser maith cyn hyn, 
Wedi concro fy ngelynion, 
   Ac yn canu ar Seion fryn;
     Sŵn y rhyfel,
   Sy'n y wlad 'rwy eto'n byw.

Dyma'n gwbwl neisyfiad,
  Imi gael bod yn dy gôl;
Er na theithiais
      eto nemawr,
  N'âd fi dynu hyny'n ol:
    Cadw 'ngolwg,
  Beunydd tua'r hyfryd wlad.

           - - - - -

Mi feddyliais yn y bore
  Buaswn amser maith cyn hyn
Wedi concro fy ngelynion,
   Ac yn canu ar Seion fryn;
     Sŵn y rhyfel
   Sy'n y wlad 'rwyf eto'n byw.

Safed haul
      uwch ben Gibeon,
  Safed lleuad yn y ne',
Safed sêr a'r holl blanedau
  'N llonydd heddyw yn eu lle;
    Cyn y collo
  F'enaid gwan baradwys well.
William Williams 1717-91

Tôn [8787447]:
Calfari (Samuel Stanley 1767-1822)
Vesper (alaw Rwsaig)

gwelir:
  Dal fy llygad dal heb ŵyro
  Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hir-nos
  Gwlad ddïeithr oddi cartref
  Llawn euogrwydd llawn o ddychryn
  Maith yw'r nos a mawr yw'r t'wllwch
  N'ad i'r gwyntoedd cryf dychrynllyd
  Nid oes arnaf faich yn gorphwys

I thought in the morning,
  I would a long time before this,
Have beaten my sins,
  And be singing on Zion hill;
    The sound of battle, &c.
  Is the place where I still live.

Full of guilt, full of terror,
  Full of pain, is my weak soul;
Strong unbelief claiming,
  I shall never come up from here:
    Balm of Gilead &c.
  Alone can heal my wound.

Depths of unbelief have
  Set me faint and weak;
Sin making me fear,
  Fear obstructing me completely:
    Make me believe, &c.
  That's what my soul loves to do.

I am fearing in my heart,
  Since so small is my force,
Against some hour for my cruel
  Temptations to make me as nothing;
    There is no strength, &c.
  Through my spirit in any place.

Halt ye henceforth my enemies,
  Who almost always beat me;
Keep me ye did destitute,
  Ye had my spirit under your feet:
    In a few hours, &c.
  I shall come out of all
        your bonds completely.

Waiting I am the long night through
  Longing for the morn of day;
Expecting to hear portals opening,
  And chains becoming loose;
    Oh that would dawn, &c.
  The delightful morn of Jubilee.

                - - - - -

I thought in the morning,
  I would, a long time before now,
Have beaten my sins,
  And be singing on Zion hill;
    The sound of the battle,
  Is the place I am still living.

Full of guilt, full of terror,
  Full of anguish, is my weak soul;
Strong unbelief claiming,
  Never will I come from here to above;
    Balm in Gilead,
  Alone can heal my wound.

Long is the night and
      great is the darkness
  However I may wear out
Lord without getting thy company,
  The strength of thy insuperable grace;
    Too much worry,
  Without thee to be able here to live.

I am fearing temptations,
  I am never anything but weak,
The weakest one is sufficiently able,
  To take my soul under his foot;
    Blood flowing,
  On Calvary which holds me up.

Although I have thousands of fears,
  Whenever the evil comes along,
I will be able to get my strength to stand
  Like the rock in the midst of the fire;
    Blood flowing,
  On Calvary which holds me up.

My weak soul, do not fear,
  It is not evil ones
        that are drawing near,
There is good news from the land of life,
  Where love endures;
    Blood flowing,
  On Calvary which holds me up.

                - - - - -

I thought in the morning,
  I would, a long time before now,
Have conquered my enemies,
  And be singing on Zion hill;
    The sound of the battle,
  Is the land in which I am still living.

This is my whole supplication,
  For me to get to be in thy bosom;
Although I have yet
      scarcely journeyed at all,
  Do not let me draw back from this:
    Keep my sight,
  Daily towards the lovely land.

              - - - - -

I thought in the morning
  I would a long time before this
Have conquered my enemies,
  And be singing on Zion hill;
    The sound of the war
  Is the land where I am still living.

May the sun stand
      over the summit of Gibeon,
  May the moon stand in heaven,
May the stars and all the planets stand
  Still today in their place;
    Before my weak soul
  Lose a better paradise.
Safed haul uwch ben Gibeon,
  Safed lleuad yn y ne',
Safed sêr a'r holl blanedau
  'N llonydd heddyw yn eu lle;
    Cyn y collo
  F'enaid gwan baradwys well.
tr. 2009,14 Richard B Gillion
In the morning I expected,
  That I should long, long ere now,
All my eager foes have conquered,
  That a crown should grace my brow:
    War and tumult,
  Still distress my wearied ears.






























In an agony of longing,
  I await the signal day,
When my fetters shall be broken,
  When from earth I fly away;
    And for tumults,
  Hear alone the songs of heaven.

              - - - - -

In the morning I expected,
  That I should long, long ere now,
All my eager foes have conquered,
  That a crown should grace my brow:
    War and tumult,
  Still distress my wearied ears.






































             - - - - -

In the morning I expected,
  That I should long, long ere now,
All my eager foes have conquered,
  That a crown should grace my brow:
    War and tumult,
  Still distress my wearied ears.









             - - - - -

In the morning I expected,
  That I should long, long ere now,
All my eager foes have conquered,
  That a crown should grace my brow:
    War and tumult,
  Still distress my wearied ears.














tr. Joseph Morris (Favourite Welsh Hymns 1854)
The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~